P-05-813 Gwahardd y DEFNYDD O FAGLAU LARSEN (maglau dal sawl math o frân)
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Action Against Wildlife Persecution, ar ôl casglu 1,943 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i wahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau
Larsen (maglau dal mwy nag un frân).
Cawell a rennir yn sawl rhan yw magl Larsen; cedwir aderyn gwyllt
byw (yr aderyn denu) yn gaeth mewn un rhan ohoni er mwyn denu adar
eraill. Pan fydd aderyn arall yn glanio ar y fagl, mae’n
disgyn i mewn trwy gât unffordd neu lawr ffug, lle y bydd yn
aros ei dynged.
Dyfeisiwyd maglau Larsen yn Nenmarc, ond fe’u gwaharddwyd yn
y wlad honno gan eu bod bellach yn cael eu hystyried yn bethau
creulon iawn.
Ciperiaid a thyddynwyr sy’n defnyddio maglau Larsen yn
bennaf, a hynny er mwyn dal pïod, brain ac aelodau eraill o
deulu’r frân. Mae’n brofiad erchyll i’r
aderyn gan iddo gael ei ddal ddydd a nos heb fwyd, dŵr na
chysgod rhag y tywydd, ac mae hynny’n peri gofid
eithafol.
Oherwydd eu bod yn defnyddio aderyn gwyllt caeth (sy’n mynd
yn groes, yn dechnegol, i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981)
rhaid defnyddio’r maglau hyn o dan delerau “Trwydded
Gyffredinol”, a geir gan Gyfoeth Naturiol Cymru, sy’n
caniatáu dal pïod, brain, sgrechod y coed, corfrain, ac
ydfrain.
Mae’n brofiad pur ofnadwy i’r “adar
denu” gwyllt gan fod eu cyfyngu yn y modd hwn yn gamdriniaeth
ac yn rhwystredigaeth o ran hanfodion eu hymddygiad. A
hwythau’n agos i’r ddaear, mae ysglyfaethwyr yn codi
braw arnynt a rhaid iddynt wylio wrth i adar eraill gael eu lladd
mewn ffordd ddienaid o flaen eu llygaid. Mae sawl un yn marw trwy
esgeulustod.
O dan y gyfraith, dylai fod gan aderyn denu caeth
fwyd, dŵr, cysgod a chlwyd, a dylid archwilio’r maglau o
leiaf bob 24 awr, ond nid dyna sy’n digwydd. Rydym wedi gweld
brain a adawyd i farw heb fwyd na dŵr, ac rydym wedi dod o hyd
i gyrff adar denu yn pydru, a’r adar hynny wedi clymu’n
barhaol â gwifrau hyd nes eu bod yn marw drwy newyn neu
straen.
Rydym wedi gweld adar sydd wedi torri eu pigau ac wedi anafu eu
pennau trwy geisio dianc. Gwelsom greulondeb, llurgunio a chlwyfo
lle mae’r cipar wedi torri plu hedfan yr aderyn denu
i’w gadw rhag dianc.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae’r maglu yn digwydd trwy fisoedd yr haf ac,
o’r herwydd, mae miloedd o gywion yn newynu i farwolaeth yn y
nyth am fod y rhieni’n cael eu dal.
Nid yw maglau Larsen yn gwahaniaethu; gallant ddal adar o bob math
a mamaliaid. Weithiau, er ei bod yn anghyfreithlon, defnyddir
colomennod er mwyn denu ac yna lladd adar ysglyfaethus.
Mae dal adar gwyllt mewn maglau adar byw a defnyddio adar denu byw
yn peri dioddefaint ofnadwy i’r adar anffodus.
Rydym yn cymell rhoi stop ar y ffordd hon o erlid bywyd
gwyllt.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad